Wyddwn i ddim fod y Per Ganiedydd wedi ail-ddefnyddio'i eiriau cymaint. Does dim rhyfedd ei fod o mor gynhyrchiol. Tybed pa olygydd(ion) fu'n gyfrifol am y detholiadau hyn o'i eiriau? (Lle mae Huw Williams pan mae rhywun am wybod am emynau?) Erbyn meddwl, mae'r pennill `Gwaed y Groes sy'n codi i fyny...' yn gyfarwydd, ond rydw i'n agos i fod yn sicr mai'r geiriau cawsoch chi gennyf i sydd yn llyfr emynau'r Methodistiaid. Rydych chi'n colli'n fawr o hepgor pennill y ``Buddugoliaeth!'', yn arbennig ar y treblu yn Bryn Calfaria, er mae'n rhaid cyfaddef bod y sangiad yn yr ail linell braidd yn chwithig. Rydw i hefyd yn weddol sicr bod Bryn Calfaria yn yr un llyfr, ac mai i hon ac nid Cwm Rhondda y byddwn ni yn ei ganu fo -- ond ers dechrau meddwl / am Cwm Rhondda, dim ond Cwm Rhondda sy'n dod i'r cof. Traddodiad / pwy adlewyrchir yn yr WNGGAA, tybed? / g [ About the hymn, I didn't know W.W. went in for so much recycling. No, I'm not entirely serious; and no, I'm not translating it all. I think my source is the Methodist hymn book, but it is partly memory. I wonder whose tradition has the (smoother) WNGGAA words. ] ___ Arwyddair welsh-l: ``Oes cyfieithiad Saesneg i'w gael?''