D'allu Di a'm gwna yn agos F'ewyllys i yw mynd ymhell: Yn dy glwyfau Bydda'i 'n unig fyth yn iach. 2. Mi ddiffygiais deithio'r crastir Dyrys anial wrthyf f'hun; Ac mi fethais a+ choncwerio, O'm gelynion lleiaf, un: Mae dy enw 'N abl i beri i'r cryfaf ffoi. 3. Gwaed dy groes sy'n codi i fyny 'R eiddil yn goncwerwr mawr; Gwaed dy groes sydd yn darostwng Cewri cedyrn fyrdd i lawr: Gad im deimlo Awel o Galfaria fryn. 4. Ymddiriedaf yn dy allu, Mawr yw'r gwaith a wnest erioed; Ti gest angau, Ti gest uffern, Ti gest Satan dan dy droed: Pen Calfaria, Nac aed hwnnw byth o'm cof! W. Williams Pantycelyn (1716-1791) Yn llyfr emyn y W.N.G.G.A., mae'r geiriau yn cael eu canu i'r do+n "Bryn Calfaria". Rydym ni'n canu'r geiriau anfonodd "g" atoch (sef "Arglwydd, arwain trwy'r anialwch...") i'r do+n "Cwm Rhondda". [Recap: Shown above are the words that the Welsh National Gymanfa Ganu Assiciation (of America, not of Wales!) uses to the tune "Bryn Calfaria".] Marta Weingartner WEINGART@UCS.INDIANA.EDU