[ Words for what is probably the hymn being asked about. Eryrsanymisionsxcptd ] ( Rydw i wedi clywed emyn Cymraeg yn ddiweddar, a rydw i'n ei hoffi yn fawr. ) Rydw i'n holi - oes rhywun all fy helpu i'w adnabod e? ( Dyma'r pethau rydw i'n gwybod am yr emyn: ) Enw'r to+n yw `Bryn Calfaria,' ( William Williams Pantycelyn ysgrifennodd yr emyn, ) Mae teitl Lladin i'r emyn - `Laudamus.' ( Yr unig eiriau rydw i wedi adnabod yw'r llinell cyn y diwethaf ) yn y pennill cyn y diwethaf. `Pen Calfaria,' yw'r llinell. ( Efaillai rydych chi'n gallu anfon geiriau'r emyn i fi, os gwelwch yn dda. Wn i ddim am y `Laudamus', ond hwyrach mai dyma'r emyn... un o emynau Pantycelyn, un genir yn aml ar Bryn Calfaria: Arglwydd, arwain trwy'r anialwch Fi, bererin gwael ei wedd Nad oes ynof nerth na bywyd Fel yn gorwedd yn y bedd; Hollalluog Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan. Colofn da+n rho'r nos i'm harwain A rho golofn niwl y dydd. Dal fi pan fwy'm teithio'r mannau Geirwon yn y ffordd y sydd, Rho i mi fanna Fel na bwyf yn llwfwrhau. Agor y ffynhonnau melys Sydd yn tarddu o'r graig i maes, 'R hyd yr anial mawr canlyned Afon iechydwriaeth gras; Rho i mi hynny, Dim i mi ond dy fwynhau Pan fwy'n myned trwy Iorddonen (Angau creulon yn ei rym) Aethost trwyddi gynt dy Hunan, Pam yr ofnaf bellach ddim? ``Buddugoliaeth!'' Gwna i mi weiddi yn y llif. Ymddiredaf yn dy allu, Mawr yw'r gwaith a wnest erioed: Ti gest angau, Ti gest uffern, Ti gest Satan dan dy droed. Pen Calfaria, Nac aed hwnnw byth o'm cof. (Oes yna bennill arall tybed, neu ydy'r penillion allan o drefn gen' i?) Fe dreblir y llinell olaf ond un, a dyblu'r olaf, ac wedyn fe ddyblir diwedd y bennill olaf eto, os nad yr holl bennill... mae hi bron yn ddiddiwedd: Pen Calfaria, pen Calfaria, pen Calfaria, nac aed hwnnw byth o'm cof, nac aed hwnnw byth o'm cof; pen Calfaria, pen Calfaria, pen Calfaria, nac aed hw-w-wnnw byth o'm cof, nac aed hwnnw byth o'm cof.... (saib i anadlu) Pen Calfaria, pen Calfaria, pen Calfaria, nac aed hwnnw byth o'm cof, nac aed hwnnw byth o'm cof; pen Calfaria, pen Calfaria, pen Calfaria, nac aed hwnnw byth o'm cof, nac aed hwnnw byth o'm cof. (Ydy o drosodd eto?)... Y peryg yw bod rhywun yn mynd i rigol, ac yn methu taro'r diwedd yn canu'r llinell olaf mewn ffordd digon terfynnol / i beidio ail-gychwyn, fel mae coelcerth `Gwlad, Gwlad' weithiau'n / iatgyfodi o farwydos llinell olaf cytgan Hen Wlad fy Nhadau. / g ___ ... o bydded i'r heniaith barhau (saib) Gwlad, gwlad...