To: sunSITE archive Does someone have an English translation? >[ Words for what is probably the hymn being asked about. Eryrsanymisionsxcptd ] > >( Rydw i wedi clywed emyn Cymraeg yn ddiweddar, a rydw i'n ei hoffi yn fawr. > ) Rydw i'n holi - oes rhywun all fy helpu i'w adnabod e? >( Dyma'r pethau rydw i'n gwybod am yr emyn: > ) Enw'r to+n yw `Bryn Calfaria,' >( William Williams Pantycelyn ysgrifennodd yr emyn, > ) Mae teitl Lladin i'r emyn - `Laudamus.' >( Yr unig eiriau rydw i wedi adnabod yw'r llinell cyn y diwethaf > ) yn y pennill cyn y diwethaf. `Pen Calfaria,' yw'r llinell. >( Efaillai rydych chi'n gallu anfon geiriau'r emyn i fi, os gwelwch yn dda. > >Wn i ddim am y `Laudamus', ond hwyrach mai dyma'r emyn... >un o emynau Pantycelyn, un genir yn aml ar Bryn Calfaria: > > Arglwydd, arwain trwy'r anialwch > Fi, bererin gwael ei wedd > Nad oes ynof nerth na bywyd > Fel yn gorwedd yn y bedd; > Hollalluog > Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan. > > Colofn da+n rho'r nos i'm harwain > A rho golofn niwl y dydd. > Dal fi pan fwy'm teithio'r mannau > Geirwon yn y ffordd y sydd, > Rho i mi fanna > Fel na bwyf yn llwfwrhau. > > Agor y ffynhonnau melys > Sydd yn tarddu o'r graig i maes, > 'R hyd yr anial mawr canlyned > Afon iechydwriaeth gras; > Rho i mi hynny, > Dim i mi ond dy fwynhau > > Pan fwy'n myned trwy Iorddonen > (Angau creulon yn ei rym) > Aethost trwyddi gynt dy Hunan, > Pam yr ofnaf bellach ddim? > ``Buddugoliaeth!'' > Gwna i mi weiddi yn y llif. > > Ymddiredaf yn dy allu, > Mawr yw'r gwaith a wnest erioed: > Ti gest angau, Ti gest uffern, > Ti gest Satan dan dy droed. > Pen Calfaria, > Nac aed hwnnw byth o'm cof. > >(Oes yna bennill arall tybed, neu ydy'r penillion allan o drefn gen' i?) > >Fe dreblir y llinell olaf ond un, a dyblu'r olaf, ac wedyn fe ddyblir >diwedd y bennill olaf eto, os nad yr holl bennill... mae hi bron yn >ddiddiwedd: Pen Calfaria, pen Calfaria, pen Calfaria, nac aed hwnnw byth >o'm cof, nac aed hwnnw byth o'm cof; pen Calfaria, pen Calfaria, pen >Calfaria, nac aed hw-w-wnnw byth o'm cof, nac aed hwnnw byth o'm cof.... >(saib i anadlu) Pen Calfaria, pen Calfaria, pen Calfaria, nac aed hwnnw >byth o'm cof, nac aed hwnnw byth o'm cof; pen Calfaria, pen Calfaria, >pen Calfaria, nac aed hwnnw byth o'm cof, nac aed hwnnw byth o'm cof. >(Ydy o drosodd eto?)... Y peryg yw bod rhywun yn mynd i rigol, ac yn >methu taro'r diwedd yn canu'r llinell olaf mewn ffordd digon terfynnol / >i beidio ail-gychwyn, fel mae coelcerth `Gwlad, Gwlad' weithiau'n / >iatgyfodi o farwydos llinell olaf cytgan Hen Wlad fy Nhadau. / g >___ > ... o bydded i'r heniaith barhau (saib) Gwlad, gwlad...