Cryn amser yn ol roedd rhywun yn holi am lythyrau... ( >I usually start letters with "Annwyl" (Dear) and end them with ) >Yn Gwir (in truth). ( ) Shouldn't that be "Yn wir" (or perhaps "Yn ngwir"?) Fel y dywedwyd gynnau, camgymeriad am `yn gywir' sydd yma. (Mae i `cywir' ystyr `faithful' ar ben ystyron `correct', `right', felly `yn gywir' am `(yours) faithfully' fuasai rhywun yn ei ddefnyddio i gloi llythyr.) Wedyn am `gwir' (= `truth'), `yn wir' sy'n gywir am `truly', `correct', er engraifft: `y mae'r gosodiad yma'n wir', neu ychydig yn fwy o benbleth `nid yw'r gosodiad yma'n wir'; hefyd ffurfiau ymadrodd fel y (beiblaidd) `yn wir meddaf i chwi...'. (So, `in truth' should in fact be `yn wir', I suppose.) Mae'r fannod yn `y gwir' yn cyfleu mai dim ond un gwirionedd sydd; felly `dweud y gwir' (lit. `telling the truth') sydd yn gyffredin ar lafar lle byddai rhywun yn dweud `honestly' yn Saesneg. A dweud y gwir, buasai'n well petaswn i wedi aros yn fy ngwely'r bore 'ma. (To tell you the truth, ...) Mae `gwir' yn groes i `anwir' (sef celwyddog) ond mae `Y Gwir' hefyd yn groes i `Y Gau' ac mae hi'n debyg byddai rhywyn oedd yn son am ddwewis y gwir yn hytrach na'r gau (making a morally right choice) yn defnyddio ymadroddion fel `yn y gwir' (in Truth), ond alla i ddim meddwl sut i wneud ar y funud. (Ah, perhaps someone who signed letters `in truth' would do it `yn y gwir'.) Ac wedyn mae gennym ni `iawn' (`correct', `right'), fel `dyna sydd yn iawn' (that's what is right) neu `mae hi yn iawn' (this is satisfactory, adequate; that's OK), `iawn, mi wna i' (OK, I'll go and do it). Byddwch yn ofalus o `talu iawn' (to compensate for a wrong). Gallwch fod `yn yr iawn' (within your rights, in the right) ond mae `yr Iawn' yn cyfateb i'r ystyr yn `talu iawn'. Oes yna rhywun sy'n anghytuno a'r dadansoddiad isod? `Dyma'r ateb cywir' this is the right answer (although perhaps only because it satisfies me...). `Mae'r ateb yma'n wir' this answer is right (although it might not have been what I had intended you to say...). `Mae'r ateb yma'n iawn' this answer is right, this answer will do (although there may be a better one...) Roeddwn i wedi cychwyn hyn o lith gan feddwl dweud rhywbeth am drafferthion siaradwyr Saesneg gyda'r fannod yn Gymraeg, wedi bod yn myfyrio am y gwahaniaeth rhwng `y gwir' a `gwir'. Fe gewch chi Saeson yn `cyfieithu' ymadroddion fel `y Swyddfa Dreth' pan fyddai Cymro rhugl yn dweud `Swyddfa'r Dreth' (Pa dreth? Y dreth. Pa swyddfa? Swyddfa'r dreth.) ac felly `Swyddfa Treth y Pen' nid (yr argian fawr) `y swyddfa treth y pen' ar unrhyw gyfrif. (Felly hefyd `swyddfa'r post', er bod `llythyrdy' yn well gan lawer am y gangen leol, gyda `swyddfa'r post' yn golygu'r gyfundrefn genedlaethol.) Felly hefyd, dyma pam gewch chi `Banc y Midland' a `Banc y National Westminster', yn hytrach nag unrhyw beth mwy synhwyrol. Dyna pam mae rhywun yn dweud `y Blaid Lafur', ond `Plaid Cymru'. Dim ond un Cymru sydd, felly mae `Plaid Cymru' yn bennodol yn barod, heb angen y fannod. Rhywbeth tebyg sy'n gyfrifol am y camgymeriad o gyfieithu `the House of Commons' (Ty'r Cyffredin, hynny yw, ty'r bobl gyffredin, o'u cyferbynnu a'r arglwyddi) yn anhywir fel `y ty cyffredin' (the common house). Mewn byd arall fe fyddai gennym Dy'r Werin a Thy'r Crach, mae'n debyg. Oes yna rhywun yn deall pam bod y Llywodraeth yn galw'r dreth newydd yn `dreth gyngor', yn hytrach na `treth cynghorau'? ___ Beth sy'n gwneud i chi feddwl fy mod i mis ar ei hol hi efo 'ngohebiaeth?