Mi glywais son rhywbryd yn ystod y 'steddfod fod yna cof golofn i Hedd Wyn yn Gwlad Belg. 'Rwyn deall ei fod wedi godi yn y blynyddoedd diwaethaf, gan rhyw gymdeithas yn Gwlad Belg. Os rhywun yn gwybod mwy amdano? Ac yn bwysicach efallai, ei leoliad? Dwi'n bwriadu mynd ar wyliau i Wlad Belg yr wythnos nesaf, ac nid yw fy naearyddiaeth y gorau a gaed! Mae gennyf syniad ei fod yn ardal 'Flanders', ond ni wyddwn yn iawn ble y mae. yn obeithiol, Huw. { Does anyone know of the whereabouts of a memorial for Hedd Wyn in Belgium. I'd heard recently that one was erected in the last few years. I remember that he died in Flanders, but I'm not too sure where that is exactly. } {{[ Hedd Wyn (aka Ellis Evans) was a bard who won the 1917 Eisteddfod chair at Birkenhead, but was killed on active service before the Eisteddfod ]}}