> any papers from local towns in Wales that print in Welsh and would be willing > to ship to the U.S.? > Diolch yn fawr... > Daniel (dlg@fourier.tam.uiuc.edu) Mae'n siwr gen i y byddai llawer o'r 'Papurau Bro' yn fodlon iawn i anfon copiau drwy'r post i'r U.D.A. - am pris resymol wrth gwrs. Mae 'na ugeiniau o bapurau leol yng Nghymru yn awr, wedi'u cyhoeddi yn hollol drwy gyfrwng y Gymraeg - ond mae 'na un problem - papurau **leol** ydyn nhw, felly does dim pwrpas i chi archebu 'Papur Pawb' os nad oes diddordeb mawr gennoch chi mewn y plwyfi o Dre-Taliesin, Tal-y-bont a Llancynfelyn! Efallai, rhywbeth fel 'Y Cymro' bydd y peth gorau i chi. Cyhoeddir 'Y Cymro' bob wythnos, pris 20c (ceiniog nid cents!). Nid papur leol yw e, ond papur genedlaethol - 'Y Papur i Bob Aelwyd Gymraeg' fel y mae'n dweud. Ond - nid papur i ddechreuwyr yw e ychwaith. Dechreuais i i'w ddarlllen wedi dysgu'r iaith am dim ond chwe mis - gwastraff o arian oedd hynny! Ail-ddechreuais i wedi tair mlynedd, ac roedd hynny yn well. Mae llawer iawn o gylchgronau Gymraeg ar gael bellach - mae 'Golwg' yn cylchgrawn 'glossy' wythnosol (75c). Mae'n canolbwyntio ar y celfyddydau ond mae tipyn o newyddion cyffredinol y tu mewn hefyd. A beth am 'Copa' - pedair gwaith y flwyddyn, cylchgrawn am pobl sy'n dringo yn y mynyddoedd. 'Dan Haul' - y byd natur, 'Mela' - i ferched, 'Barn' a 'Taliesin' - llenyddiaeth, 'Prentis' - i ddysgwyr. Cyfeiriad 'Y Cymro' yw: Swyddfa'r Cymro Parc Busnes Ffordd Wrecsam Yr Wyddgrug Clwyd CH7 1XY Cymru/Wales Ffon+n (+44) 0352 700022 Am wybodaeth ynglyn a+'r cylchgronau eraill, cysylltwch a+ Cyngor Llyfrau Gymraeg yn Aberystwyth. Yn anffodus, na allaf yn dod o hyd i'w cyfeiriad ar y foment - efallai y bydd rhywun arall yn helpu. Pob lwc Nigel (ncallaghan@cix.compulink.co.uk)