Un cwestiwn olaf ynglyn a'r ddeddf iaith newydd. Oes rhywun yn gwybod beth mae'r ddeddf newydd yn ei ddweud ynglyn a'r pynciau isod? Roedden nhw'n bynciau dadl losg y llynedd, ond ers i'r ddeddf gael ei phasio, nid wyf wedi clywed dim byd mwy amdanynt. 1) Hawl i bob plentyn gael addysg yn y Gymraeg. 2) Y cymal oedd yn gorfodi i gyrff cyhoeddus ddarparu deunydd yn Gymraeg "oni fo hynny'n afresymol, neu'n rhywbeth na ellid ei wneud". (Y geiriau mewn dyfyn-nodau oedd yn achosi'r ddadl.) 3) Ydy'r ddeddf yn gwahaniaethu rhwng ardaloedd gyda mwyafrif o siaradwyr Cymraeg (e.e. Gwynedd) a'r rhai gyda lleiafrif o Gymry Cymraeg (e.e. Gwent a Morgannwg)? Diolch yn fawr am unrhyw wybodaeth. Marta Weingartner weingart@ucs.indiana.edu [Yet another question about the new Welsh Language Act.]