( < Nerth esgyrn y pen, something like with the force of your skull. ) < (Bloeddiodd nerth esgyrn ei phen, ayb.) ( ) Tydi hi ddim yn bosib jest dweud "bloeddiodd nerth ei ben/nerth ei phen", ( hefyd? Rwyf bron yn sicr 'mod i wedi clywed rhywbeth o'r fath... Ydy, debyg iawn. Be'dy'r ga+n nid-Band-Aid Cymraeg yna, `bloeddiwn nerth ein pennau...'. Am wn i, gweiddi nerth ein pennau wnaethon ni pan oeddwn ni'n blant. Wn i ddim nad ydy nerth nerth esgyrn ei ben ddim yn swnio mymryn mwy eithafol. Gellir ddefnyddio rhannau eraill o'r corff hyd yr eithaf hefyd -- rhedeg nerth ei draed fydd rhywun sy'n ffoi rhag ei elynion, hwyrach hefyd rhedeg nerth ei goesau. Wn i ddim, bosib mai neidio nerth ei goesau fyddai rhywun mewn ras neidio, neu rasus beic. g