( maen nhw'n dod o'r capel i gyd dan ganu ) yn gafael yn eu ffyn ( (o lyfryn y CD "Gedon" gan Bob Delyn a'r Ebillion). Beth ydy "ffyn"? Mwy nag un ffon (sticks). ( A beth yn union ydy'r ystyr y linell gyntaf -- maen nhw i gyd yn dod, neu ) maen nhw'n dod o'r capelau i gyd? Mae pawb, wrth ddod o'r capel, yn canu. Mae `mynd dan ganu' yn golygu `singing as (they/you) go', ac mae `i gyd dan wneud', neu `oll dan wneud' yn perthyn efo'u gilydd -- `all doing (something)' -- ac yn ffurf safonol sy'n dderbyniol mewn iaith lafar a iaith lenyddol. ( O... un cwestiwn arall o'r albwm gwerin 'na ... mae 'na linell: ) mae'r we+rs yn buta'r wyrddis ( "buta", dwi'n meddwl, ydi'r ffurf Bethesda am "bwyta", ac rydw i'n meddwl ) fod "we+r" yn dipyn o "hillbilly" (cywir?) ond beth ydy "wyrddis"? Cais i sillafu ffurf lafar o `bwyta' yw `buta', ac am wn i ffurf lafar sy'n gyffredin ar draws gogledd Cymru sydd yma (yn union fel y baswn i yn sillafu geiriau fel `buaswn' fel `baswn'). Mae'n debyg gen i mai tafodiaith mwy lleol yw `we+r' -- ffurf unigol yn tarddu o'r un gwraidd a `gwerin' -- a `wyrddis' o'r gair Saesneg `worthy'. Mae `gwerin' yn un o'r geiriau hynny bydd pawb yn dweud na fewdrwch chi mo'u cyfieithu allan o'u cyd-destun cymdeithasol, ond rhywbeth fel `common people' yw'r ystyr. Yn Saesneg, Saesneg Lloegr beth bynnag, mae `worthies' yn golygu buddugion, pobl bwysig, a dyma'r `wyrddis' sy'n cael eu `buta' gan y `we+r'. Y tro nesaf, `sliwod spontus'. Wir. Wn i ddim ai tafodiaith Caernarfon (iaith Cofi) mae `Bob Delyn' yn ei ddefnyddio, neu iaith Ceredigion (`the city of Ffostrasol') neu rhyw ddryswch o'r ddau. g