Ar rhyw brydnhawngwaith teg o ha hirfelyn tesog, cymmerais hynt... A hithau'n braf a hwyr brynhawn, a minnau'n digwydd bod yn y cyffiniau, dyma benderfynu mynd i chwilio am fedd Kenneth Grahame, awdur The Wind in the Willows. Er mod i wedi byw yn Rhydychen ers blynyddoedd lawer fues i erioed cyn heddiw ym mynwent y Groes yn Holywell, Rhydychen. Fe berthyn y tir i Goleg Merton, ond mae ers rhai blynyddoedd wedi'i osod yng ngofal naturiaethwyr lleol sy'n cadw'r llwybrau'n glir ond yn gadael y gweddill i'r gwyllt fel cynefin i fywyd gwyllt ar ffiniau'r ddinas. Llecyn braf, ar lan afon Cherwell, y tu allan i hen furiau'r dref gynt, ond yng nghalon y ddinas, erbyn hyn. Fel mae'n digwydd bod mae carreg bedd Grahame yn union o flaen y porth ond digwyddodd i mi fynd heibio iddi heb sylwi; felly dyma grwydro o gwmpas a chwilio ym mysg y deugain a mwy o feddau enwogion y dref a'r Brifysgol sydd wedi'u garddio'n daclus er mwyn ymwelwyr (ac, o ran cywreinrwydd, hefyd chwilota yn y drain a'r blodau gwyllt i weld pwy arall sydd wedi'i gladdu yno). Ac ym mhen hir a hwyr, ym mhen draw pella'r fynwent mae'r perl: bedd John Rhys, cyn brifathro Coleg yr Iesu, Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen, llywydd cyntaf cymdeithas Dafydd ap Gwilym (cymdeithas Cymry'r Brifysgol), ieithegwr, marchog, aelod o Cyfrin Gyngor y Goron yn Lloegr, a 'dwn i ddim beth arall. O, ie, bachan o Bonterwyd. Ie. Mae'n debyg mai ar gyfrif bod yn gymrawd gynt yng Ngholeg Merton y mae wedi'i gladdu ym mynwent Eglwys y Groes. Fel y gellir disgwyl, ac yntau wedi marw ym mlynyddoedd cynnar y ganrif, mae ganddo (a'i wraig Elsbeth) garreg bedd echrydus o Fictorianaidd -- engyl terra-cotta mewn bwa dros pen y bedd. Dim byd mawr, ond os bydd rhywyn a diddordeb yn yr hen John / yn digwydd bod yn Rhydychen ar brynhawn o haf, mae ambell / i le llai diddorol i ymweld a fo. / g ___ [ ``Where are they now?'' -- Today: John Rhys, 1840 - 1915 ]