I know this came from a message that was apparently sent to welsh-l only by accident, but... ( The problem was that "goose" is a masculine word, but the goose I'm talking ) about is female. I also am not sure how to say, "the white one" or "the ( gray one." Aderyn banw yw gwydd, felly gair benywaidd yw `gw+ydd', a `clagwydd' (neu `ceiliagwydd', hynny yw ceiliog-gwydd) fyddai'r gwryw, a gair gwrwaidd yw clagwydd wrth gwrs. Felly os gwydd, un wen neu un las; fel arall os clagwydd, un gwyn neu un glas. Mae gen i syniad bod siaradwyr Saesneg yn barotach i son am gi yn cenawa, neu rhywbeth cwbl ddisynwyr fel hynny -- dim ond gast all ddod a cenawon -- am fod yr iaith yn llai gwledig na'r Gymraeg, neu yn hytrach am fod mwy o siaradwyr Saesneg wedi'u codi ar aelwydydd sydd mwy nag un cenhedlaeth oddiar `y tir'. A goose is female and so the word `gw+ydd' is naturally feminine, and a male would be a `clagwydd' (literally a cock-goose) which is a masculine word. So the white one would be `yr un wen' if a goose and `yr un gwyn' if a gander; a grey one `un las' or `un glas' respectively. I reckon that English is sloppier about things like a `dog' having cubs -- it only makes sense for a `bitch' to cub -- because more of its speakers are more than one generation away from an agricultural background. (That's my provocation for this week.) g ___ Ond wedi dweud hynny, mae'n debyg bod `gw+ydd' (yng ngw+ydd) yn wrwaidd, a bod gwy+dd (offer gwehydd) yn wrwaidd, ond bod gwydden (unigol gwy+dd) yn fenywaidd; a does gen i mo'r syniad yn y byd sut i esbonio rhain.