Rwy'n dysgu dosbarth Cymraeg i ddechreuwyr yr haf yma, ac mae'r cwestiynau canlynol wedi codi yn barod: - Beth yw'r ffurf Gymraeg ar yr enw 'Lawrence'? A beth am 'James'? (ar waha+n i 'Ja+ms', hynny yw. Rwy'n credu i mi ddarllen 'Iago' yn rhwyle, ond dwi erioed wedi clywed am neb efo'r enw 'na.) Ac ar yr un pwnc, oes rhywun sy'n gwybod am enw Cymraeg sy'n debyg i'r enwau 'Melanie' a 'Nicole'? (Ydych chi'n gallu dyfalu bod y myfyrwyr am Gymreigio eu henwau?) - Rwy'n ynganu'r gair 'Ffrangeg' fel 'Ffrangeg'. Ond rwyf wedi clywed 'Ffraneg' yn aml iawn yng Nghymru, gan ddywsgwyr a Chymry Cymraeg. Pam? Ai dyna yw'r ynganiad cywir? (Ac os felly, pam oes -ng- ynghanol y gair o gwbl?) Diolch am eich cymorth. Marta Weingartner WEINGART@UCS.INDIANA.EDU [The above are some questions about Welsh names and pronunciation of the word 'Ffrangeg'.]