13-year old learner of Welsh, I would think that of the books mentioned the one by Angela Wilkes might be the most suitable. I may be wrong, but I think that this is by a company which publishes teaching books in numerous languages, in the same format more or less. If so, it contains colour cartoons of events in the lives of youngish characters. (Someone please correct me if I'm mixing it up with something else or even another language). I can't remember anything about 'Welsh with Ease' by W.G. Jones unless it's a pamphlet-type book which wouldn't be suitable. 'Welsh is Fun' and 'Welsh is Funtastic' are cartoon-based, but the intended humour is aimed at adults. When the same format and substantially the same pictures were used for Irish, there was quite an outcry, as they were considered sexist (ogling nubile young women in a state of semi-nakedness being one of the staple interest of quite a number of the characters) and to be doing no good to the cause of the Irish language in general. [Some 1992 books published in Welsh or connected with Wales which made an impression on a number of people] Gyda'r so+n a gafwyd yn ddiweddar am glasuron y Gymraeg a'r awydd a fynegwyd i drafod llenyddiaeth, efallai y byddai o ddiddordeb i rai ohonoch glywed ymatebion nifer o bobl sydd yn ymhel ryw ffordd neu'i gilydd a+'r Gymraeg pan ofynnwyd iddynt ba rai o gyfrolau y llynedd a wnaeth yr argraff fwyaf arnynt. Dyma bigion o'r hyn a gyhoeddwyd yn 'Taliesin' yn ddiweddar. (Ymgyfyngaf i'r llyfrau Cymraeg a Chymreig): 'Annwyl Kate, Annwyl Saunders', a olygwyd gan Ddafydd Ifans, sef gohebiaeth blynyddoedd meithion rhwng Kate Roberts a Saunders Lewis. 'Seren Wen ar Gefndir Gwyn', gan Robin Llywelyn. Y gwaith a nodwyd amlaf. 'Y Chwaer Dduwies: Celf, Crefft a'r Eisteddfod' gan Peter Lord. 'Colofn Bapur' gan Robin Williams, sef detholiad o naw mlynedd o ysgrifennu colofn wythnosol mewn papur newydd. 'Y Ferch Dawel', nofel gan Marion Eames. 'Yn Nheyrnas Diniweidrwydd', a olygwyd gan Alan Llwyd. Blodeugerdd am blant a phlentyndod. 'Sglefrio ar Eiriau', a olygwyd gan John Rowlands. Cyfrol o feirniadaeth lenyddol yn dilyn rhai o ddamcaniaethau diweddar am astudio llenyddiaeth. 'Talwrn y Beirdd 6', sef detholiad o'r gyfres radio ar farddoniaeth. 'Rhaffau'. Cerddi gan Emrys Roberts. 'Cerddi Derwyn Jones'. 'O Ddifri', sef rhan gyntaf hunangofiant Dafydd Wigley. Gwelais hyd yn oed yr arch-dori Elwyn Jones yn canmol y gyfrol hon yn rhywle. O'r cyfrolau Saesneg a nodwyd, dyma'r rhai a+ chysylltiad a+ Chymru: 'Mass for Hard Times', sef casgliad o gerddi gan R.S. Thomas. 'Mid-Victorian Wales' gan Ieuan Gwynedd Jones. 'Crime in Ninenteenth Century Wales' gan David J.V. Jones. 'The Mountains of Wales' a olygwyd gan Ioan Bowen Rees. Casgliad o sylwadau llenorion ac eraill. 'Internal Difference' gan M. Wynn Thomas. Astudiaeth o beth o lenyddiaeth Gymraeg a Chymreig yr Ugeinfed Ganrif. Cofion, Dewi. (Evansc92@irlearn.ucd.ie)