Diolch am y newyddion (er braidd yn fras) am y digwyddiadau ym Mhrydain. Rydym ni sy'n byw yn yr anialwch yn eu gwerthfawrogi nhw'n fawr iawn. Doeddwn i ddim wedi clywed na sw na miw cyn hynny. Fedrwch chi ddweud pryd gafodd John Redwood ei benodi'n Ysgifennydd Gwladol, a phryd bydd yn dechrau yn y swydd? (Neu ydy e eisoes wedi dechrau?) Ac yngly+n a+'r mesur iaith melltigedig 'na: fedrwch chi esbonio, er mwyn pobl fel fi sy'n anwybodus, beth yn union mae 'ail-ddarlleniad' yn olygu? Ydy'r gair yn cyfeirio at y ffaith bod y mesur wedi cael un darlleniad yn barod yn Nhy+'r Arglwyddi, neu ydy e wedi cael dau ddarlleniad yn Nhy+'r Cyffredin? Neu ydy'n golygu bod y mesur wedi cael ei ail-wampio a'i gyflwyno dan ffurf go wahanol?... Diolch. [Requesting clarification about the new Secretary of State for Wales, and about the second reading of the proposed language act in the House of Commons.] Marta Weingartner weingart@ucs.indiana.edu