( Fedrwch chi ddweud pryd gafodd ) John Redwood ei benodi'n Ysgifennydd Gwladol, a phryd bydd yn dechrau yn y ( swydd? (Neu ydy e eisoes wedi dechrau?) Cafodd ei benodi rhywbryd bore Iau, ac mae'n cychwyn ar ei waith yn syth. Mae'n debyg nad oedd (neb) wedi disgwyl ei benodiad -- daeth swydd yn wag braidd yn annisgwyl oherwydd i'r cyn-Ganghellor wrthod swydd (? Amgylchedd) a gynnigwyd iddo, a bu rhaid gwneud nifer o newidiadau eraill er mwyn llenwi swyddi pwysicach y Llywodraeth; ac wedi peidio'r gerddoriaeth, roedd un sedd wag a diffyg Toriaid adain dde yn y Cabinet. ( Ac yngly+n a+'r mesur iaith melltigedig 'na: fedrwch chi esbonio, er mwyn ) pobl fel fi sy'n anwybodus, beth yn union mae 'ail-ddarlleniad' yn olygu? Well i mi adael hyn i rywun sy'n deallt yn well -- ond mae pob deddfwriaeth ddaw o flaen y Senedd cael tri `darlleniad' yn Nhy'r Cyffredin. Dim ond cyflwyniad ffurfiol i'r Ty yw'r darlleniad cyntaf, hyd y gwn i. Ceir tri darlleniad ym mhob ty. Os nad ydw i yn drysu'n llwyr, rhywbeth ar ffurf trefn llywodraethol mynachdai cynnar yw trefn darlleniadau senedd Lloegr. g