[ a personal account regarding the usage of the different forms for saying numbers in Welsh ] } Sut fasech chi'r Cymry Cymraeg yn dweud 38, 57, neu 99, er enghraifft? [Marta Weingartner, Weingart@ucs.indiana.edu] 38 - deunaw ar hugain, deugain namyn ddau 57 - dau ar bymtheg ar ddeugain 99 - cant namyn un Wnes i ddysgu tipyn bach o Gymraeg fel myfyriwr israddedig yng Ngholeg Y Brifysgol Caerdydd ym 1986/7. Roeddwn i'n dilyn cwrs cyfrifiadureg ond, yn y flwyddyn gynta, cymerais "Astudiaethau Cymraeg" fel un (o'r tri) cwrs. Roedden nhw'n dysgu'r ddau ffurf - e.e. "ugain" a "dau ddeg". Gan yr oeddwn i ar safon llafar tipyn uwch na'r cwrs (wn i'n byw yn yr asgell Cymraeg o'r neuaddau) roedd y pobl wn i'n byw hefo (o'r Wyddrug, Pen-y-bont a Merthyr) yn dysgu llawer mwy i mi - roedden nhw i gyd yn dweud "ugain" ayyb. Roedd y Cymry Cymraeg ar y cyrsiau mathemategol am gael tiwtoriaid Cymraeg. Doedd dim llawer ohonom, felly roeddwn i, er bod yn dysgwr, yn fodlon "gwneud i fyny'r rhifau" :) Tua chwech ohonom ni oedd yn cael ein dysgu gan y ddau athro (prof.) Cymraeg yn yr Adran Mathemateg. Cyflym oeddwn i'n dysgu termau mathemategol y dyddiau hynny! Mae'n debyg yr oedden ni'n defnyddio'r ffurfiau newydd y rhan fwyaf o'r amser. Ar raglenni teledu plant fel "Slot Meithrin" maen nhw'n dweud y ddau ffurf lle mae'n bosib. E.e. "Hylo plant, y deunawfed o Fis Mai (Mis Mai un-deg-wyth) yw hi..." *Ond* mae'r rhaglen ar gyfer plant llai ifanc (Slot 23) yn cael ei alw "slot dau-ddeg-tri" gan bawb yn o+l fy mhrofiad! Gedge