> >Llongyfarchiadau i John Savage, Cymro sy'n siarad Cymraeg a gafodd ei >ethol yn brif weinidog newydd Nova Scotia, Canada. Rhywbeth sy'n profi >unwaith eto mai Nofa Scosia yw'r dalaith fwyaf Celtaidd ymg Nghanada! >Congrats to John Savage, a Welsh-speaking Welshman who has just been >elected the new premier of Nova Scotia, which shows that this province >still remains the most Celtic in Canada! > >Hwyl, >Pawl. Diddorol iawn. Gryn amser yn o+l gwelais bwt o erthygl yn cyfeirio at weinidog yn llywodraeth Awstralia o'r enw Gareth Evans, os cofiaf yn iawn. Tybed a w+yr unrhyw un beth yw ei hanes ef? Mae gen i dudalennod (neu lyfrnod yn o+l un o'r geiriaduron, h.y. 'bookmark') wedi ei gael ers blynyddoedd gan gyfeilles o Ganada, ac arno lun athletydd o un o bobloedd brodorol Canada a enillodd amryw o fedalau Olympaidd ryw dro. Rydw i wedi bod yn chwilfrydig ers blynyddoedd i wybod sut y cafodd ei enw Cymreigaidd, Alwyn Morris. [Is the (former?) Australian government minister, Gareth Evans, a Welsh-speaker, and how did the Olympic medallist of indigenous Canadian ancestry get to be called Alwyn Morris?] Dewi. O.N. Newydd glywed rw+an am Ysgrifennydd/Unben newydd Cymru. Haws, mae'n amlwg cael Cymro'n bennaeth yn Nova Scotia nag yng Ngwalia. Pwy ar y ddaear yw'r dyn yma, a beth yw ei gysylltiad a+ Chymru - ei hen nain wedi bod ar drip ysgol sul i'r Rhyl yn 1837? Clywais hefyd fod Dafydd Wigley wedi ei alw i drefn am feiddio a+ siarad Cymraeg yn y senedd wrth drafod y Mesur Iaith. A oes gan unrhyw un ohonoch ychwaneg o fanylion?