Dwi'n synnu fod WELSH-L yn trafod tarddiad geiriau tra fod un o nosweithiau mwya'r genedl heno! Mae Cymru yn chwarae Romania am le yng nghwpan y byd (peldroed) yn yr Amerig flwyddyn nesa. Mae rhai ohonom yn ddigon lwcus i gael tocyn (sy'n gwerthu am gymaint a #150 ar y stryd) a mi fyddan ni yno heno yn bloeddio'r hogia 'mlaen. Rhaid i Gymru guro os am le yn y gwpan. Os curith (??) nhw o ddwy go+l, mae nhw drwodd. Os mai un go+l o fantais ceith nhw, yna mae nhw'n dibynnu ar wlad Belg i beidio gadael yr RCS (tsecoslofacia gynt) i'w curo yng ngwlad Belg. Mae i Gymru gyfle da, a mi geisiai sgwennu ryw fath o adroddiad pnawn fory wedi imi ddod at fy hun wedi'r noson fawr fydd yn dilyn os fydd yr hogia enill. {Wales play Romania at the Arms Park tonight. If they win by two goals they are in the (soccer) world cup in the USA next summer. If they win by one goal, they require that Belgium (also tonight) don't let the RCS (ex-Czechoslovakia) win at Belgium. I'll be there and I'll bring you a report if I survive the lethal celebrations that will follow if they qualify.} -- Illtud Daniel- Adran Fathamateg Gyfrifiadurol, Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd. Dept. of Computing Maths, University of Wales College Cardiff. H.I.R.Daniel@cm.cf.ac.uk