"The Great Dictionary" from Bangor Rwy'n cymryd mae "Geiriadur yr Academi" o dan olygyddiaeth Dr. Bruce Griffiths (a gyda help Dr Dafydd Glyn Jones) sydd dan sylw. Geiriadur Saesneg - Cymraeg yw hwn fydd, mi dybiaf yn dod allan fel dwy gyfrol (tua 35 punt y gyfrol glywais i). Mae un ai yn y wasg, neu ar fin cyrraedd y wasg - Gwasg Prifysgol Cymru. Dyddiad cyhoeddi? Wn i ddim. Gwyl Dewi '94? (ond dyna glywais i llynedd :-) Dafydd [Above mentions a new English-Welsh dictionary, Geiriadur yr Academi Gymraeg, which has been in preparation here in Bangor for many years (15?). It is apparently either at the publishers, or about to go to the publisher. Last I heard was that it would be 2 volumes (about 35 pds each)]