[A poem in the dialect of Cwm Tawe in South Wales about the hard life of a mistreated, sensitive young Welsh girl who rebels against her drab surroundings.] Annwyl bawb, Gan fod rhywun wedi dangos diddordeb yn y llyfr 'Matilda ac Adroddiadau Eraill' gan Abiah Roderick, dyma feddwl y gallai amryw un ohonoch gael blas ar y gerdd a roes ei henw i'r llyfr. Brodor o Glydach, Cwm Tawe oedd Abiah Roderick, a disgwylid yn eiddgar am ei gerddi doniol yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan ddarllenid hwy ar y radio. Mae'r gerdd wedi ei hysgrifennu yn nhafodiaith Cwm Tawe. Dyma rai o'r nodweddion ieithyddol mwyaf trawiadol (mi adawaf i rywun mwy cymwys drafod y nodweddion seicolegol!): Mae -o ar ddiwedd gair yn cyfateb i -io yn y gogledd (a'r iaith ysgrifenedig) - pido: peidio; perfformo: perfformio Troes chw- yn wh-: chwarae > whare; chwaer > whar Symlhawyd y deuseiniaid: arwydd > arwdd; cael > cal; gweiddi > gwiddi -e a geir yn gyffredin yn y sillaf olaf: dechre < dechrau; lice < liciai Nodwedd fwy penodol i Forgannwg ydi'r calediad (b, d, g > p, t, c) yn arbennig yng nghanol geiriau: napod = (ad)nabod; gyta = gyda; lliced = llygaid etc. Defnyddir 'nace' gydag ystyr 'nid' e.e. "Nace dyna sy'n bwysig", a 'symo' (< does dim o) am 'nid yw' ... -ws yw terfyniad cyffredin y 3ydd unigol gorffennol: gofynnws: gofynnodd; dalws: daliodd 3. dwcws = dug, cymerodd 5. weta'i = dywedaf fi; cf.23 wetws = dywedws, dywedodd iddi phange = i'w phangau 11. whilia = siarad (