arian X-Cc: Nigel Callaghan To: SunSITE Archive (( Cwestiwn: Roeddwn i'n meddwl am sut i gyfiethu'r idiom Saesneg 'to )) pick up' rhywbeth. (( )) e.e. I am going to pick up the car tomorrow (nid yn llythrenol - dydw (( i ddim yn ddigon cryf!) )) (( Ffordd arall yn Saesneg i'w ddweud ydy 'I'm going to collect....' ond )) dydw i ddim yn siw+r am 'casglu'. Ydy ystyr 'casglu' mwy fel 'to (( collect together'? Mae'n debyg mai `mynd i no+l y car' fyddwn i (petai gen i gar). Alla i ddychmygu dweud `mynd i hel y car' ond mae'n ymddangos i mi mai cyfieithiad llythrenol o'r Saesneg fyddai gwneud felly. Mae'n debyg mai'r un yn wir am `casglu'. [ Ac yn awr bydd y blaenoriaid yn gwneud y casgliad... the stewards will now go to hell. Mae'n ddrwg gen i. ] Wedi dweud hynny, mae'n debyg mod i'n mynd i godi car pan fydda i'n llogi un o bryd i'w gilydd. Wn i ddim nad ydy'r `codi' yma ddim yn cyfeirio at y trafod arian am yr hawl i ddefnyddio'r car. (( Roeddwn i'n meddwl efallai 'Rwyf yn mynd i godi'r car yfory'. Oes )) modd i ddefnyddio 'codi' fel hyn? Mae'n berf ddefnyddiol iawn - rydw (( i wedi clywed 'codi wal' - to build a wall, a chredaf 'mod i wedi )) clywed rhywbeth fel 'codi tocyn' = to buy a ticket. Oes cysylltiad (( a+'r Saesneg 'to raise an invoice' o gwbl? Mae pobl yn dweud `codi arian', nid yn unig am y gwaith o gymell rheolwr y banc i roi benthyg deugain mil i gychwyn y busnes, ond hefyd am fynd at y peiriant arian-trwy'r-wal am ddyrnaid o burau deg. Tybed ai'r un yw'r ail ystyr ag yw `codi tocyn'. Mae `codi wal' neu `codi ty+' yn amlwg, fel mae `codi pais gwedi piso' a `codi'n fore, hanner gorau'r gwaith'. Beth am `codi newyn' a `codi cyfog'? Ac fel mae'n digwydd bod, mae'r tywydd yn codi (h.y. codi'n braf) yma nawr felly well i mi ei hel hi am y gwaith cyn bydd y storm nesaf yn codi. g