> > Roger Vanderveen writes: > < Cymraeg yr Internet: dwi dwi ddim > > sort of > > > Roger, I've heard this construction in contemporary Welsh-language pop music, > too, most recently in the songs of the group BOB DELYN A'R ERBILLION. Took > my ear a moment to adjust. > I ychwanegu at y ddadl yma - fel Gog, 'da ni ni yn defyddio dwi ac yn y blaen ar lafar. Iaith y Werin nid iaith yr Internet ('da chi ddim yn meddwl fod y Rhwydwaith Rhyngwladol yn well?). Felly pan dwi (a rhai eraill) yn sgwrsio fel hyn yna fy iaith lafar byddai yn ddefnyddio. Mae'n ddrwg gen i os ydi hyn yn cymlethu ac yn creu problemau i'r dysgwyr. Y broblem gyda nifer o'r llyfrau i ddysgwyr ydi bod nhw'n ceisio dysgu iaith lafar ond yn gwneud pethau yn waeth rhan fwyaf o'r amser gan eu bod yn dysgu iaith lafar yr AWDUR. Dyma pam mae lot o ddygwyr yn cael trafferth pan maent yn ceisio siarad a brodorion - maent yn siarad y iaith lafar anghywir! Mae'n siwr fod na Hwntws (pobol o'r De) all eilio hyn; mae'n ddigon anondd i ni ddallt ein gilydd heb son am drio cywiro (a fel arfer gwneud job sal ohoni) rhywun sydd wedi dysgu (yn gywir) ond yn yr iaith lafar o ben arall y wlad! Hefyd, iaih lafar y De sy'n cael ei ddygu rhan fwyaf - o be dwi di weld a'i glywed yma ar y rhestr. Peidiwch a cymryd hyn 'critisism'u dim ond pethau i;w ystyru ydi rhain. Wrth gwrs mae dysgu Cymraeg y tu allan i Gymru llawer iawn yn galetach ond os ydych yn dysgu yng Nghymru ceisiwr ddysgu eich iaith lafar leol! > too, most recently in the songs of the group BOB DELYN A'R ERBILLION. Took Bob Delyn a'r Ebeillion dwi'n meddwl. Os am Gymraeg barddol (mae hyn yn barn bersonol!) gwarandwch ar David Edwards o Datblygu. Dyna ddigon o falu awyr Dewi