( ) Isn't there something approaching a self-contradiction here, if it's ( OK to say "MORdwyo'r awyr"? Or is the "mor" here completely opaque ) to contemporary speakers? Of course there's a contradiction; pwy ddwedodd fod rhaid i mi fod yn gyson? Pendronais yn hir am y gair "mordwyo" cyn dewis peidio dweud "wrth deithio'r awyr", er mwyn tynnu sylw at y peth. (Beth am "wrth dramwyo'r awyr, wrth nofio rhwng y cymylau, wrth gerdded llwybrau'r ser"?) Un peth fyddai so+n am "forio'r awyr", peth arall yw creu gair fel "morawyreg" le mae'r ystyr i gyd yn yr un rhan (awyreg) ac mae'r rhan arall (mor-) wedi dod o'r rhan o air arall (morwr(-iaeth?)) sydd a wnelo fo dim a'r ystyr. Ni fuaswn wedi cwyno gymaint am "awyrwriaeth" neu rhywbeth tebyg. Gellir hefyd ofyn pam fod ofodwr yn 'astrono+t', ac yn y blaen. ( Doesn't "cwmniau awyrennau" suggest Boeing and Lockheed, rather than ) BA and Air France? Ydy, debyg iawn; gall "cwmni awyrennau" fod yn "adeiladwyr awyrennau" yn hytrach na "cwmni hedfan", ond "cwmni awyrennau" mae rhai pobl yn ei ddweud. Dyna fyddwn i'n ei ddweud, beth bynnag. Gellid hefyd gofyn "doesn't 'glas' suggest 'sky' rather than 'grass'", "doesn't 'coch' suggest 'blood' rather than 'bread'", a phwy wnelai hynny? g