) Mae'n bwysig iawn cyfieithu! Nac ydy ddim. Mae'n bwysig defnyddio'r iaith, ac mae'n bwysig bathu geirfa (o bryd i'w gilydd) ond mae'n bwysig /peidio/ a chyfieithu. O gyfieithu, y cwbl fydd ganddom ni yw rhyw glogyn pitw o gyfieithiad ar sgerbwd a chyhyrau iaith arall. Nid mater o ddatrys co+d yw troi o un iaith i iaith arall. ( In fact 'scwlcan' has obviously come from the ) english 'skulking'. I think this is acceptable, because it is not ( used because people are ignorant of the 'proper' word. In fact, the ) Welsh word is 'llechu' but unfortunately it sounds rather like ( 'rhechu' (look it up). Scwlcan is pronounced just as it 'looks' .. ) to 'rhyme' with bull-can. Gan droedio'n ofalus i osgoi cael fy nghyhuddo o gywirdeb gwleidyddol: nid mater o anwybodaeth a geiriau cywir mohono. Dichon mai 'scwlcan' yw'r gair iawn yn iaith rhai pobl, ond hefyd mae 'llechu' yn fyw yn iaith y rhan fwyaf ohonom sydd ddim yn siarad fel Pobl y Cwm. Ac mae hefyd iddo deulu parchus o eirfa defnyddiol fel 'llechwr' a 'llecwraidd'. Ie, ond at hwn roeddwn i'n dod: ( virtual reality - realiti rhithwir Dyma'r fath o 'gyfieithiad' roeddwn i'n gwrthwynebu. Pam 'reality'? Dim ond am fod dau air yn y Saesneg; na, wir. Beth yw 'rhithwir'? "Gwir", hynny yw dirwedd neu realaeth, ond nad ydy o ddim ond yn "rhith" ohono'i hun. "Rhithwir", felly /yw/ ystyr y Saesneg. Mi wn i mai fel ansoddair y mae o'n cael ei ddefnyddio fel arfer, ond pam na ellid ei ddefnyddio fel enw hefyd? Neu, pe bai raid, rhithwiredd neu rhywbeth tebyg fel enw a rhithwir fel ansoddair. ) cyberspace - rhithofod ('virtual space') Ga i gynnig gollwng yr "o" dros ben? "Rhithfod", ar batrwm hafod a geiriau tebyg mae'n debyg. Pam? Yn bennaf am fod arlliw o "gwagle" yn ystyr gofod, ac nad gwag-le ond lle yw ystyr y "space" yma yn y Saesneg. Ond hefyd am na fyddai'r acen yn eistedd yn hawdd iawn ar rhith/O/fod nac yn naturiol iawn ar rh/I/thofod. ( login/logoff - cloi mewn/cloi ffwrdd (Mae'r ddau yma braidd yn ) wirion ond allai ddim meddwl am ddim byd gwell. Mae'r ( busnes 'cloi' yn debyg i ge+riau car, dyna lle ges i y syniad) Mae'r arddull, o chwilio am sefyllfa tebyg lle mae geirfa a strwythur iaith yn bod yn barod, yn glodwiw ond pam agor a chloi ceir? A pham nad "agor" a "chloi", os felly? Rhywbeth wedi ei fenthyg o'r Saesneg yw cystrawen berfenw-ac-arddodiad heb iddo wrthrych. Rhan o'r drafferth yma yw fod ystyr y Saesneg erbyn hyn yn niwlog: gwraidd y "log" yw'r gofrestr sy'n dangos hanes digwyddiadau pwysig yn hanes cyfrifiadur. Rhan arall o'r drafferth yw fod y geiriau Saesneg erbyn hyn yn cael eu defnyddio gyda beth wmbredd o ystyron gwahanol. Weithiau byddai "ymuno" (nid ymuno a+) a "gadael" yn cyfleu'r ystyr yn ddigonol; weithiau ni fyddai holl rwysg clogyrnaidd rhywbeth fel "ymgofrestru" a "datgofrestru" ddim yn ormod. Nid mod i'n cynnig y naill na'r llall fel syniad o ddifrif: beth am agor cysylltiad, agor sesiwn, agor cyfrif hwyrach yn o+l y galw; a'u cau nhw (neu'i cloi bhw, pe bai raid) wedyn? Y sefyllfa debyg sydd gen i mewn golwg yma yw agor a chloi llythyr, agor a chloi sgwrs, neu agor a chloi darlith. Wn i ddim fyddwn i'n defnyddio agor a chau heb wrthrych yma, ond ni welaf i ddim rheswm peidio gwneud chwaith. Beth mae Cymry Cymraeg sy'n defnyddio cloc gwaith i ddangos eu horiau yn ei ddweud am "clocking on", tybed? (Fyddwn i ddim yn synnu clywed mai "clocio" yw'r ferf, na fyddai'n fawr o gymorth i ni yma.) ( (Ac wrth gwrs, fe ddylai pob Cymro da wybod am _Eic Davies_ yn bathu ) termau rygbi yn Gymraeg, a sut mae nhw yn dod mor naturiol hyd yn ( oed i rywun fel Ieuan Davies) Ddylai debyg iawn. Roedd rhaglen deyrnged i Eic Davies yn theatr y maes yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Nedd eleni, gyda Huw Llywelyn a'r teulu yn y gynulleidfa. Da oedd clywed yno recordiad o'i lais ar hen raglenni Byd y Bel unwaith eto. Geirfa rygbi Eic Davies hefyd oedd testun crysau-T blynyddol Cathryn Timothy eleni. (Llun o bymtheg o grysau ym mhatrwm tim rygbi gydag enwau'i sefyllfaoedd ar y cefn, 'rygbi' ar y llawes, ... o ie ac 'ogi ogi ogi' ar y frest gyda'r asgellwr dde ar y cefn yn ateb 'oi! oi! oi!'.) g